Role Overview & Specifications

Amdanom ni:


Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:


Darparu gwasanaeth cynghori iechyd proffesiynol i’r myfyrywryr a darparu arweiniad a chyngor ar faterion iechyd myfyrwyr i’r staff perthnasol. Hyrwyddo Iechyd a Lles ar draws y Coleg.


  • Rhan-amser (22 awr yr wythos)

  • Yn Ystod y Tymor (40 wythnos y flwyddyn)

  • Parhaol

  • Pro-Rata: £16,626 - £19,341
Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Cynllunio a darparu Rhaglen Hyrwyddo Iechyd misol, wedi’i deilwra i fynd i’r afael â materion iechyd perthnasol megis iechyd rhywiol, byw’n iach, ysmygu a.y.b

  • Gweithio’n agos â staff y gyfadran, Rheolwr Profiad a Lles Dysgwyr a’r Cydlynydd Cymorth i Ddysgwyr er mwyn asesu anghenion meddygol a chymorth y myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu, iechyd corfforol a meddyliol.

  • Sicrhau bod pob trip yn cael ei fonitro ar gyfer cyflyrau meddygol a sicrhau bod arweinyddion y tripiau yn ymwybodol o sut i gefnogi’r cyflyrau, lle y bo angen gwneud hynny.
Amdanoch chi:

  • Nyrs gofrestredig ar ran berthnasol o’r gofrestr.

  • Profiad o weithio â phobl ifanc

  • Gallu darganfod datrysiadau positif i broblemau.
Buddion:

  • 6.29 Wythnos o Wayliau Blynyddol

  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)

  • Parcio am ddim

  • Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - £60 y flwyddyn

  • Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff

  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing


Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.



Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.


Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

About Gower College Swansea

Gower College Swansea is an actively verified employer hiring talent across technology, engineering, and operations.

  • Headquarters: United States / United Kingdom
  • Company Size: 1,000+ employees
  • Trust Rating: 95 / 100 (Official Registry Audited)

View all openings at Gower College Swansea →